Llanelli

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn gweithio yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, tref sy’n enwog am ei hanes diwydiannol. Mae Treftadaeth nas Cerir; Llanelli yn canolbwyntio ar dwf diwydiannol cyflym y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Yn wir, daethpwyd i alw Llanelli yn ‘Tinopolis’ oherwydd y symiau enfawr o lo, haearn a thunplat a gynhyrchai. Mae pobl ifanc yn ymchwilio i’r ffordd y dirywiodd yr ardal yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif a sut yr arweiniodd hyn at adael nifer fawr o adeiladau diwydiannol yn segur a aeth yn adfeilion ac a ddymchwelwyd.

Gan ddefnyddio celf, ffotograffau a nifer fawr o ddulliau eraill byddant hefyd yn edrych ar y ffordd y mae hen rannau canol y dref wedi dirywio’n ardaloedd nas defnyddir, nas cerir ac a esgeulusir o ganlyniad i’r parc manwerthu mawr diweddar y tu allan i’r dref. Bydd y bobl ifanc yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gwahanol ac yn cael profiadau gwych – o ddysgu sgiliau archaeolegol i gynnal eu harddangosfeydd celf eu hunain ac ennill eu Gwobr Celfyddydau. Mewn partneriaethau lleol â Chyngor Tref Llanelli, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin a phrosiect Cyfuno bydd Treftadaeth nas Cerir; Llanelli yn helpu pobl ifanc i ddeall a gwerthfawrogi’r gorffennol hanesyddol cyfoethog o’u hamgylch.

Cysylltu â ni


Llanelli:
Sarah Rees
s.rees@dyfedarchaeology.org.uk
01558 825999