Ceredigion Gyfyngedig?
Mae ‘Ceredigion Gyfyngedig?’ yn brosiect tair blynedd a arweinir gan bobl ifanc ac a gynhelir gan banel ieuenctid Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae a wnelo ag archaeoleg a bod yn greadigol, gan annog pobl ifanc a’u cymunedau i gymryd rhan yn y gwaith o gofnodi, dehongli, rheoli a diogelu treftadaeth gudd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif sy’n bwysig iddynt yng Ngheredigion. Mae gennym thema wahanol ar gyfer pob blwyddyn o’r prosiect: – Yn 2017- 2018 y thema yw ‘Ysbrydion, Llafur a Lladdfa: Darganfod gweithwyr a gweithleoedd drychiolaethol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Ngheredigion’ – Y thema yn 2018 – 2019 fydd Cartref, Aelwyd, Bywyd a Marwolaeth: Chwilio am straeon yng nghartrefi ac ar aelwydydd cudd Ceredigion’ – Yn ystod 2019 – 2020 byddwn yn troi ein sylw at ‘Ysblander, Byd Adloniant a Chân: Ceisio dod o hyd i bersonoliaethau a mannau ysblennydd amser hamdden Ceredigion yn y gorffennol.’
Ymunwch â Phanel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion, er mwyn ein helpu i redeg ‘Ceredigion Gyfyngedig?’. Rhwng 16 a 25 oed? Yn hoffi hanes, yn dwlu ar Ddaearyddiaeth neu’n mwynhau bod yn greadigol? Rydym yn cynnig rhaglen gyffrous a chyfle i ddatblygu ystod eang o sgiliau. Gallech roi cynnig ar ffotograffiaeth danddaearol, ymchwilio i dirwedd ac adeiladau’r sir, creu sain a ffilm, cyllidebu, actio, creu gwaith celf, mapio a llawer mwy…..Chi fydd yn dewis ac yn cynllunio! Neu, os ydych yn rhedeg grŵp ieuenctid i bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed neu’n aelod o grŵp ieuenctid yng Ngheredigion, cysylltwch â ni, gallwn gynnig gweithgareddau ‘gwaharddedig i chi.
Mwy o wybodaeth yma: https://ceredigionofflimits.home.blog/