Mae a wnelo Treftadaeth Ddisylw? ag ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru, ennyn eu diddordeb a’u hysbrydoli i ymwneud â’u treftadaeth leol.
Mae’n rhaglen ysbrydoledig, greadigol, llawn hwyl, sy’n annog pobl ifanc i ddarganfod lleoedd newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.
Mae Treftadaeth Ddisylw? yn cynnwys saith prosiect rhanbarthol, a arweinir gan bobl ifanc a sefydliadau treftadaeth ledled Cymru.
Datblygwyd pob un o’r saith prosiect gyda phobl ifanc a phartneriaid lleol. Mae pob un ohonynt yn wahanol, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag archaeoleg y rhanbarth a’i bobl. Gan ddefnyddio gweithgareddau sy’n amrywio o archaeoleg draddodiadol i realiti rhithwir, o recordio cerddoriaeth i gofnodi adeiladau ac o feicio i ganŵio, bu pobl ifanc yn gweithio gyda ni i greu gweithgareddau deniadol.
Bwriedir i bob un o’r prosiectau annog pobl ifanc i ddarganfod y byd treftadaeth o’u hamgylch ac adrodd hanes eu helyntion. Bydd yr hanesion hyn yn waddol pwerus; er mwyn helpu i ddehongli safleoedd treftadaeth lleol. Ceir manylion cyswllt swyddogion y prosiectau ar bob tudalen – cysylltwch â ni; hoffem glywed gennych!