Amodau a Thelaerau

Gwefannau Llywodraeth Cymru a reolir gan Cadw, y cyfeirir ato o hyn ymlaen  fel ‘Ni’, yw treftadaethddisylw.cymru ac unlovedheritage.wales. Datblygwyd y wefan gan Gasgliad y Werin Cymru, gallwch gysylltu â’r Gasgliad y Werin yma: https://www.casgliadywerin.cymru/contact-us

Mae treftadaethddisylw.cymru and unlovedheritage.wales yn cael eu cynnal at eich defnydd personol. Drwy gyrchu a defnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy’n dod i rym ar y dyddiad y defnyddiwch y wefan gyntaf.

Os defnyddiwch y wefan, rydych chi’n cytuno â’r Telerau. Mae ein Polisi Preifatrwydd yn rhan o’r Telerau, felly byddwch cystal â darllen hwnnw hefyd. Mae’r Telerau hyn, y Polisi Preifatrwydd ac unrhyw ddogfen arall y cyfeiriwn ati yn y Telerau hyn, yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngom. Os nad ydych yn cytuno â’n Telerau neu ein Polisi Preifatrwydd, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan.

 

Data personol

Byddwch cystal â darllen ein Polisi Preifatrwydd i ddarganfod sut yr ydym yn gwarchod eich data personol: cyfuno.wales/privacy-cookies

 

Hawliau eiddo deallusol (gan gynnwys hawlfraint) yn ein gwefan

Ac eithrio delweddau a ddarperir gan Gasgliad y Werin Cymru drwy’r Drwydded Archifau Creadigol, mae’r holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint, yn y wefan ac ym mhob deunydd a nodwedd a ddarperir gennym fel rhan o’r wefan, yn perthyn i Lywodraeth Cymru. Ni chaniateir i chi gopïo, atgynhyrchu, ailddosbarthu, lawrlwytho na defnyddio’r wefan nac unrhyw ran ohoni ac eithrio fel y caniateir yma. Cedwir pob hawl arall.

 

Defnyddio cynnwys y wefan

Cewch ddefnyddio’r cynnwys ar y wefan at ddibenion preifat, addysgol ac anfasnachol yn unig. Os ydych am ddefnyddio’r wefan, neu gynnwys a nodweddion y wefan, at unrhyw ddiben heblaw am ddefnydd personol, rhaid i chi gysylltu â ni i gael ein caniatâd yn gyntaf.

 

Cysylltau â gwefannau allanol

Gall cysylltau o fewn ein gwefan arwain at wefannau eraill. Darperir y rhain er cyfleuster yn unig. Nid ydym yn noddi, yn cefnogi nac yn cymeradwyo fel arall unrhyw wybodaeth na datganiadau sy’n ymddangos ar y gwefannau hyn, nac ar wefannau y cyfeirir atynt yn y gwefannau hyn neu sydd wedi’u cysylltu â hwy.

 

Dwyieithrwydd

Tra bod y deunydd sydd ar y wefan a grëwyd gan Lywodraeth Cymru ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ni allwn eich sicrhau fod deunydd a grëwyd gan unigolion neu sefydliadau allanol ar gael yn y ddwy iaith.

 

Gwarchod rhag firysau

Gwnawn bob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob cam cynhyrchu. Fe’ch cynghorir i redeg rhaglen wrth-firws ar bob deunydd a lwythwch i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, difrod neu darfu ar eich data neu eich system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

 

Ymwadiad

Darperir gwefannau, gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) treftadaethddisylw.cymru ac unlovedheritage.wales ‘fel y maent’ heb gynrychioli na chymeradwyo a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i warantau ymhlyg ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, peidio â thorri hawlfraint, cydnawsedd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd a gynhwysir ar y wefan hon yn ddi-dor nac yn rhydd o wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y wefan hon na’r gweinydd sy’n ei darparu yn rhydd o firysau nac yn cynrychioli holl swyddogaethau a chywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn o dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, nac am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath sy’n deillio o ddefnyddio neu golli defnyddio data, neu golli elw, o ganlyniad i ddefnyddio’r wefan hon neu mewn perthynas â’i defnyddio.

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli gan ddeddfau Cymru a Lloegr a’u dehongli yn unol â hwy. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

 

Newidiadau

Gallwn ddiwygio’r Telerau hyn ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru’r postiad hwn. Fe’ch cynghorir i ddod i’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i adolygu’r Telerau cyfredol ar y pryd gan eu bod hwy’n eich rhwymo.

 

Cysylltu â Ni

Gobeithiwn fod y Telerau hyn yn gwneud synnwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Telerau hyn, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r botwm “cysylltu” sydd ar waelod pob tudalen.