Dyffryn Nantlle
Mae prosiect Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn canolbwyntio ar dreftadaeth diwydiant chwareli llechi Dyffryn Nantlle. Dros gyfnod y prosiect, bydd YAG, ynghyd â grŵp cymunedol Dyffryn Nantlle 2020, yn gweithio gyda phobl ifanc leol tra byddant yn archwilio, yn dysgu ac yn dehongli eu treftadaeth. Wrth i’r diwydiant llechi cerfio tirlun y dyffryn, wnaeth hefyd yn siapio bywydau bob dydd, diwylliant a hunaniaeth y rhai oedd yn byw yn y cymunedau cyfagos. Drwy ddefnyddio ystod o dechnegau technolegol ac archeolegol, mae’r bobl ifanc yn anelu at gofnodi storïau safleoedd a phobl yr ardal.
Yn ystod camau nesaf y prosiect bydd y bobl ifanc yn datblygu eu sgiliau technolegol. Gyda hyfforddiant mewn realiti rhithwir ac atodol, bydd gan y grŵp reolaeth wrth ddylunio app sy’n portreadu eu treftadaeth hwy. Os ydych rhwng 11 a 25 oed, a hoffech gymryd rhan cysylltwch â ni!