Sgrialu Trefol
Bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent a pharc sgrialu EXIST yn cydweithio i edrych ar sut mae sgrialwyr yn gweld treftadaeth a’r dirwedd drefol o’u hamgylch – yr hyn sy’n bwysig iddynt, a pham? Byddwn yn mapio lleoedd pwysig, yn tynnu lluniau ohonynt ac yn eu cofnodi; i’r sgrialwr, mae’r ddinas gyfan yn dir ffrwythlon! Gall grisiau, meinciau a nodweddion tirwedd oll gynnig y cyfle i rygnu, llithro a chlirio, gyda dim ond sgìl dechnegol, hyder ac ewyllys y sgrialwr yn cyfyngu ar y campau y gellir eu cyflawni.
Rydym yn defnyddio technegau archaeolegol traddodiadol i astudio archaeoleg anhraddodiadol ac yn helpu pobl ifanc a gwneuthurwyr penderfyniadau yn y ddinas i ddeall safbwynt ei gilydd. Gan ddefnyddio mapiau, ffotograffau, arolygon a brasluniau, bydd y bobl ifanc yn llunio eu cofnod eu hunain o’u dinas eu hunain ac yn eu rhannu ag eraill.