Blaenrhondda
Mae prosiect Blaenrhondda yn brosiect cydweithredol rhwng Cadw a Plant y Cymoedd. Gyda’n gilydd rydym yn ymchwilio i hanes diwydiannol a chymdeithasol hen Lofa Fernhill a’r tai a arferai sefyll wrth ei hymyl. Heddiw mae’r dirwedd hon yn wag, ac mae holl fwrlwm diwydiant ac aneddiadau wedi hen ddiflannu.
Gan ddefnyddio archifau, archaeoleg, realiti rhithwir a ffotograffau, ein nod yw ail-greu’r safle. Ar hyd y ffordd byddwn yn rhoi cynnig ar nifer fawr o weithgareddau newydd, yn canfod straeon am y safle gan bobl a arferai fyw a gweithio yno ac yn ymchwilio i dreftadaeth gyfoethog y rhan hon o Gymru.