Doc Penfro

Yn Noc Penfro mae unig Iard Longau’r Llynges Frenhinol yng Nghymru ac mae ganddo gyfoeth o hanes milwrol a chymdeithasol sy’n ysu i gael ei ddehongli. Bydd Cadw yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr ardal er mwyn adrodd straeon y dref hon yr anghofir amdani weithiau. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â rhai o’r cymdeithasau treftadaeth yn y dref, er mwyn i’n pobl ifanc feithrin sgiliau a chael profiadau gwych yn ystod oes ein prosiect.

Byddant yn gallu penderfynu pa straeon y maent am eu hadrodd, a sut y maent am eu hadrodd. Byddwch yn barod am ffotograffiaeth, cerddoriaeth, perfformiadau … a llawer mwy. Os ydych rhwng 11 a 25 oed ac yn credu y gallai hyn fod at eich dant chi – cymerwch ran! Cysylltwch â ni. Os ydych yn rhedeg grŵp ieuenctid a’ch bod yn dymuno cymryd rhan, hoffem glywed gennych.

Cysylltu â ni


Pembroke Dock + Blaenrhondda:
Polly Groom
Cadw 03000 259132
Polly.groom@gov.wales