Uchafbwyntiau Gwanwyn / Haf 2018

By Polly Groom in 

Wrth i’r tymor hydref gydio’n dynn, roeddwn i’n meddwl y byddai’n arfer addas i grynhoi rhai o’m huchafbwyntiau personol i hyd yma ar ein taith Treftadaeth Ddisylw?. Mae wedi bod yn wanwyn a haf prysur, ac mae pobl ifanc o bob cwr o Gymru wedi bod allan yn darganfod eu treftadaeth a dysgu pob math o sgiliau newydd.

Ar ddechrau’r haf, roedd yn bleser gennym groesawu tri grŵp Treftadaeth Ddisylw? i Gloddfeydd Silica Dinas lle cawsom antur yn dringo i fyny’r rhaeadr, archwilio’r gloddfa segur a dysgu am ffotograffiaeth mewn golau isel. Gwnaeth ein pobl ifanc gynhyrchu lluniau GWYCH a gafodd eu cynnwys yng nghylchgrawn ‘Descent’! https://www.facebook.com/Gwentcavers/photos/a.778641572182244/1793479610698430/?type=3&theater  Diolch o galon i Glwb Ogofa Gwent am hwyluso’r peth. Fe welwn ni chi’r tymor nesaf?

Uchafbwynt (llythrennol iawn) ein grŵp o Lanelli oedd cael y cyfle i hedfan fyny fry mewn awyren fach a thynnu lluniau o’r awyr. Er gwaethaf pryderon gan rai (awyren fach iawn oedd hi, wedi’r cwbl!) gwnaeth pawb hedfan dros Sir Benfro ar ddiwrnod crasboeth a thynnu rhai delweddau gwych.  Cafodd un o’n cyfranogwyr y cyfle i hedfan yr awyren am gyfnod byr hyd yn oed. (Na. Dydyn ni ddim yn genfigennus. Wir i chi).  Ac mae ein grŵp o Ddyffryn Nantlle wedi cyrraedd ei uchelfannau ei hun mewn hofrennydd, yn edrych ar dirwedd y diwydiant llechi o’r awyr er mwyn deall ei maint a’i raddfa. Ardderchog.

Ymysg ein hanturiaethau yn ystod yr haf roedd taith i Sioe Frenhinol Cymru. Roedd pedwar o’n grwpiau ar y stondin ‘Treftadaeth Ddisylw?’, yn tynnu hunluniau, siarad ag ymwelwyr am y prosiect a chasglu adborth ganddynt. Braf oedd cael gweld ein cyfranogwyr yn magu hyder wrth iddynt sylweddoli bod diddordeb gan bobl mewn gwrando ar bopeth roedd ganddynt i’w ddweud, a’u bod yn awyddus i gael rhagor o wybodaeth am y prosiect. Gwnaethon nhw hyd yn oed ymdopi â gwersylla, ac ymgyfarwyddo â’r maes enfawr i fwynhau’r hyn roedd y Sioe Frenhinol yn ei gynnig. Am waith arbennig – da iawn pawb!

Mae wedi bod mor brysur, mae’n anodd gwybod pryd i roi’r gorau i ysgrifennu. Fe allen ni sôn am grŵp Blaenrhondda yn cynnal ei waith cloddio archeolegol ei hun, grŵp Ceredigion Gyfyngedig? yn helpu i adfer peiriannau glo, a grŵp Abertawe yn lansio ei brosiect Sglefrfyrddio Trefol.  Wedyn, mae’r arddangosfeydd gwych o waith celf pobl ifanc a gweithgareddau yn y gogledd a’r de, a’r artist preswyl yng Ngheredigion. Mae ystafell gymunedol gyfforddus newydd yn y Trallwng i grwpiau lleol ei defnyddio, ac mae sesiynau peintio cerrig, teithiau archifau y tu ôl i’r llenni a theithiau preswyl i blastai wedi digwydd. Mae cyfranogwyr Treftadaeth Ddisylw? wedi sglefrfyrddio, ymweld â lleoedd, tynnu lluniau a chymryd rhan mewn sesiynau arforgampau. Maen nhw wedi beicio, cynnal arolygon, gweithredu ac archwilio. Yn bwysicaf oll, maen nhw wedi dysgu cymaint i ni, staff y prosiect, am y ffordd maen nhw’n ystyried treftadaeth a’r hyn sy’n bwysig. Rydyn ni wedi mwynhau mas draw.

Mae angen i mi sôn yn benodol am grŵp Llanelli, sef y grŵp cyntaf i dderbyn tystysgrifau Gwobr y Celfyddydau yn cydnabod ei waith gwych eleni. Da iawn!

Ac yn olaf – wrth i mi ysgrifennu hwn, rydw i yn ei chanol hi wrth baratoi ar gyfer Llais Ieuenctid, sy’n digwydd y penwythnos nesaf.  https://www.arts.wales/143317?diablo.lang=cym  Llais Ieuenctid yw’r digwyddiad arbennig cyntaf erioed sy’n dathlu’r effaith y gall diwylliant a threftadaeth ei chael ar fywydau pobl ifanc. Ond peidiwch â chymryd fy ngair i yn unig – caiff holl gyflwyniadau’r digwyddiad eu harwain gan y bobl ifanc eu hunain, a bydd ymwelwyr yn gallu gweld rhai o’u cyflawniadau mewn arddangosfa ddeuddydd arbennig. Ein grwpiau yng Ngheredigion, Llanelli a Blaenrhondda sy’n cynrychioli rhaglen Treftadaeth Ddisylw? ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan ohono. Mae ychydig o lefydd ar ôl o hyd, AM DDIM  – felly archebwch eich lle ac ymunwch â ni.  Mae’n bleser mawr gen i y gallwn chwarae rhan fawr yn y digwyddiad gwych hwn, a dwi’n edrych ymlaen at rannu’r haens gyda chi.