Helo!

By Polly Groom in 

I ddechrau, helo!  Os ydych chi’n darllen hwn, mae’n golygu eich bod chi wedi dod o hyd i’n tudalen we newydd sbon. Mae ychydig o waith i’w wneud cyn iddi gael ei chwblhau’n llwyr, ond mae golwg dda arni hyd yma, gobeithio’ch bod chi’n cytuno. Ond peidiwch â phoeni – nid yw’r ffaith bod gennym ‘gartref’ go iawn ar-lein erbyn hyn yn golygu na fyddwn ni ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol. Ddim o gwbl – mae hynny’n sicr. P’un ai Twitter, Facebook neu Instagram sy’n mynd â’ch bryd, mae’r cyfan wedi ei gynnwys.

Felly, croeso i’n blog! A phwy ydym “ni”?
“Ni” yw staff a chyfranogwyr “Treftadaeth Ddisylw?” – rhaglen sy’n helpu pobl ifanc i gysylltu â threftadaeth, a rhoi cynnig ar nifer o sgiliau, gweithgareddau a chelfyddydau creadigol newydd ar hyd y ffordd. Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf byddwch yn clywed gan amrywiaeth o staff y prosiect, ein partneriaid ac, yn bwysicaf oll, rai o’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Ond am y tro, gadewch i mi gyflwyno fy hun …

Polly ydw i. Dwi’n gweithio i Cadw ac rwy’n ffodus dros ben i arwain rhaglen Treftadaeth Ddisylw?. Nid rhaglen syml mohoni – mae pum sefydliad gwahanol yn cynnal saith prosiect  bach (gweler ein tudalennau gwe) – a rywsut, rwy’n ceisio cadw llygad ar bob un. Fi sydd hefyd yn gyfrifol am gyflwyno adroddiadau i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, a roddodd y grant i ni allu cyflwyno’r prosiect uchelgeisiol hwn, felly mae digon gen i i’w wneud. Mae’r pum swyddog prosiect arall sy’n gweithio ledled Cymru yn wych, diolch i’r drefn – bydd cyfle iddyn nhw gyflwyno eu hunain yn nes ymlaen ar y blog hwn!

Daeth Treftadaeth Ddisylw? i fodolaeth ar ôl sylweddoli dau beth allweddol:
1 – mai pobl ifanc yw’r grŵp oedran lleiaf tebygol i ymgysylltu â threftadaeth
2 – bod llawer o bobl yn ystyried treftadaeth i fod yn rhywle rydych chi’n ymweld ag ef, castell neu blasty efallai.

Felly, nod ein rhaglen yw annog pobl ifanc i ystyried y dreftadaeth ar garreg eu drws, sy’n gwneud i’w tref neu dirwedd edrych fel y mae. Hefyd, roedd angen i ni roi sicrhau bod treftadaeth yn beth deniadol – felly gwnaethom siarad â phobl ifanc ledled Cymru a gweithio gyda nhw i lunio rhaglen o weithgareddau a digwyddiadaudiddorol, llawn hwyl, yn eu barn nhw. Ac mae popeth yn iawn hyd yma …